Meddylfryd Twf
Beth yw Meddylfryd tŵf?
Mae meddylfryd tŵf yn ffordd o ddatblygu gwytnwch a datblygu meddylfryd o weld methiant a chamgymeriadau fel cyfle i ddysgu. Mae ethos o feddylfryd tŵf yn cael ei ddatblygu yn gryf ac yn gadarn yn Ysgol Dewi Sant ar hyd y blynyddoedd dysgu.
Yn Ysgol Dewi Sant rydym wedi adnabod 8 cyhyr dysgu gall y plant ymarfer er mwyn ‘tyfu’ eu hymennydd.
Yn y dosbarth
Dros y dwy flynnedd diwethaf, rydym wedi bod yn brysur yn datblygu dosbarthiadau sy’n hybu meddylfryd o dwf yn hytrach na meddylfryd sefydlog (fixed) drwy wneud y canlynnol;
- Cyflwyno Emojis (yr 8 cyhyr dysgu)
Gofynwyd i'r plant ddod fyny hefo cymeriadau ‘emoji’ eu hunan oedd yn cyd-fynd a’r cyhyrau dysgu. Dyma ‘r 8 emoji greuwyd;

Dyfalbarhau, Canolbwyntio, Creadigol, Mwynhau Dysgu, Parhau i wella, Rho gynnig arni, Canolbwyntio
- Gwersi wythnosol
Rydym yn dysgu 1 wers Meddylfryd o Dwf yr wythnos yn dilyn syniadau o lyfr Shirley Clarke.
- Cynllun marcio
Rydym wedi addasu ein cynllun marcio fel bod llawer mwy o adborth effeithiol yn digwydd rhwng yr athrawon a’r disgyblion. Golyga hyn fod y plant yn adnabod eu camgymeriadau ac yn ymwybodol o’r camau nesaf sydd angen eu gwneud er mwyn gwella. Rydym yn defnyddio ‘pinc perffaith’ i dynnu sylw at yr hyn y maent wedi gwneud yn dda a ‘glas gwella’ i dynnu sylw at gamgymeriadau neu rywbeth sydd angen ei addasu/newid. Mae’r plant hefyd yn marcio gwaith eu hunain a gwaith ei gilydd yn defnyddio’r cynllun marcio yma lle ceir llawer o drafodaeth rhwng y plant am eu dysgu eu hunain.
- Partneriaid parablu
Mae pob dosbarth yn wahanol wrth ddod i ddewis partneriaid parablu.
e.e. ym mlwyddyn 1, bydd yr athrawon yn dewis y partneriaid ar hap ar fore dydd Llun ac yna, bydd y plant yn gweithio o fewn grwpiau o 6 neu 8 gyda’u partneriaid. Mae hyn yn golygu bod cyfleoedd i blant gyd-weithio gydag unigolion gwahanol bob wythnos. Mae gan bawb gryfderau a gwendidau ac mae gweithio gyda phartner yn golygu bod pawb yn gallu dysgu gan ei gilydd.
- Camgymeriadau campus
Mae gan bob dosbarth wal ‘Camgymeriadau Campus’ ble bydd athrawon a disgyblion yn trafod camgymeriadau sydd yn codi wrth farcio gwaith. Mae’n gyfle gwych i ddisgyblion weld bod camgymeriadau yn rhywbeth y dylem ei ddathlu er mwyn symud ymlaen a gwella. Yn Ysgol Dewi Sant, rydym yn dathlu camgymeriadau. Mae camgymeriad yn rhan o ddysgu a datblygu.
Mistakes that Worked
The Girls Who Never Made Mistakes
15 Accidental Inventions You Can't Imagine Your Life Without
- Dewis her
Fel rhan o allu gwella meddylfryd y plant, mae’n bwysig eu bod nhw yn gallu adnabod pa waith sydd ddigon heriol iddyn nhw. Mae’n bwysig nad yw plant yn treulio gormod o amser yn eu parth dysgu cyfforddus gan nad yw hynny yn eu hymestyn yn feddyliol. Mae lefelau gwahanol o her yn cael eu cynrychioli gan liwiau gwahanol yn ein hysgol ni: Coch yw’r weithgaredd mwyaf heriol, yna glas ac yna gwyrdd.
Cysylltu
Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE
Ffôn: 01745 351355
Facebook: @YsgolDewiSant
Instagram: @ysgol-dewi-sant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk







