Cyngor Eco

Mae ein Cyngor Eco yn weithgar iawn yn yr ysgol.

Rydym yn:

1. Hybu Ymwybyddiaeth Amgylcheddol: Rydym yn codi ymwybyddiaeth am faterion amgylcheddol yn yr ysgol, fel gwastraff, ailgylchu, ac arbed ynni. Mae hyn yn helpu plant ddeall pwysigrwydd gofalu am y blaned.

2. Cynllunio a Gweithredu Prosiectau: Mae'r Cyngor Eco yn trefnu prosiectau sy'n ymwneud â gwella'r amgylchedd ysgol, fel plannu coed neu blanhigion, gwneud ardd ysgol, neu redeg rhaglenni ailgylchu.

3. Ysbrydoli Newid Cadarnhaol: Rydym yn annog disgyblion a staff i fabwysiadu arferion mwy cynaliadwy, fel defnyddio llai o blastig neu beidio â gwastraffu dŵr ac ynni.

4. Lleisio Barn y Disgyblion: Rydym yn cael y cyfle i fynegi ein barn ar faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd, sydd yn rhoi teimlad o gyfrifoldeb dros ein cymuned ysgol.

5. Cynorthwyo i ddilyn Cynlluniau Eco-ysgol: Rydym fel ysgol yn rhan o raglen ‘Ysgolion Eco’, mae y Cyngor Eco yn sicrhau bod yr ysgol yn cyrraedd ei hamcanion cynaliadwyedd, ac yn helpu gyda'r gwaith o geisio ennill gwobrau fel y Faner Werdd.

Dyma ein Cyngor eco eleni:
  • Blwyddyn 2 = Eben Lines ac Alfie Roose
  • Blwyddyn 3 = Bella Rathbone a Dylan Dyson
  • Blwyddyn 4 = Connor Thomas a James Farrell-Garry
  • Blwyddyn 5 = Arabella Johnson a Brody Woody
  • Blwyddyn 6 = Scarlet Davenport ac Edward Paley
  • Criw Cyngor Eco yn sefyll tu allan gyda coed oi amgylch

Rydym wedi cynnal adolygiad amgylcheddol o'r ysgol a blaenoriaethau'r cyngor eleni yw:

  1. Cyffredinol - Creu cod eco newydd ar gyfer yr ysgol gyfan.
  2. Arbed ynni - lleihau faint o drydan sy'n cael ei ddefnyddio yn yr ysgol.
  3. Bio-amrywiaeth - denu bywyd gwyllt i'r ysgol wrth brydferthu'r ysgol.
  4. Gwastraff - sicrhau ailgylchu effeithiol yn yr ysgol. Sefydlu 'swap shop'

Cysylltu

Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE

Ffôn: 01745 351355
Ffacs: 01745 351395
Trydar: @YsgolDewiSant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk

Yn yr adran yma: