Amdanom Ni

Caiff ein hysgol ei llywio drwy ganoli’r plentyn, er mwyn sicrhau unigolion hapus, hyderus a llwyddiannus. Ein nod yw darparu cwricwlwm egnïol a chynhwysfawr ble datblygir yr awch i ddysgu a llwyddo ymysg ein disgyblion.

Yr wyf yn ffodus iawn o gael arwain tîm o staff sydd yn gweithio’n galed i uchafu potensial a safon ymysg ein disgyblion. Mae’n flaenoriaeth gennym i uchafu llwyddiant pob plentyn drwy gyd weithio’n agos gyda rhieni/gwarchodwyr, y gymuned leol a chlwstwr ysgolion cynradd Sir Ddinbych. Credwn yn gryf i addysg pob plentyn lwyddo drwy bartneriaeth gref rhwng yr ysgol a’r cartref.

Nid oes gennym unrhyw amheuaeth y bydd ein plant yn ffynnu dan adain warcheidiol staff Ysgol Dewi Sant. Drwy dderbyn y safon uchaf bosibl o addysg a chyfleoedd yn ystod ei siwrnai ysgol, bydd pob plentyn yn barod ar gyfer y byd cyfnewidiol sydd ohoni

Mrs M.A. Evans (Pennaeth)

Cysylltu

Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE

Ffôn: 01745 351355
Facebook: @YsgolDewiSant
Instagram: @ysgol-dewi-sant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk

Yn yr adran yma: