Diogelu

Yn Ysgol Dewi Sant, mae diogelwch a lles ein disgyblion yn holl bwysig. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd diogel, cefnogol a chroesawgar i bob plentyn, lle gallant ddysgu, datblygu a ffynnu.

Mae gennym bolisïau cadarn ar waith i sicrhau diogelu effeithiol, ac rydym yn gweithio'n agos gyda rhieni, asiantaethau allanol a'r gymuned ehangach i sicrhau bod pob plentyn yn ddiogel rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.

Beth rydym yn ei wneud i ddiogelu plant?:

  • Mae gan yr ysgol Dîm Diogelu Dynodedig sydd wedi cael hyfforddiant penodol.
  • Mae staff yr ysgol a'r Llywodraethwyr i gyd yn cael hyfforddiant diogelu blynyddol.
  • Mae dulliau clir ar waith ar gyfer adrodd pryderon.
  • Rydym yn hyrwyddo diogelwch ar-lein a lles emosiynol.
  • Rydym yn cynnal gwiriadau cefndir manwl ar staff a gwirfoddolwyr.

Os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch plentyn, cysylltwch â'r ysgol i drafod gydag un o'r Swyddogion Diogelu Dynodedig

Dyma ein Swyddogion Diogelu Dynodedig

  • Mrs Evans - Pennaeth
  • Mrs E Williams - Dirprwy Bennaeth
  • Mrs D Williams - Arweinydd CA2
  • Miss Davies - Arweinydd Cyfnod Sylfaen
  • Mrs Sioned Davies - Llywodraethwr
  • Poster Diogelu Ein Dysgwyr Ysgol Dewi Sant
  • Poster Swyddogion Diogelu Dynodedig Ysgol Dewi Sant

 

Adrodd am ddigwyddiadau

Mae rhieni a gwarchodwyr yn chwarae rhan bwysig wrth gadw pawb yn ddiogel. Adroddwch unrhyw beth sy'n ymddangos yn anarferol, yn anniogel neu'n peri pryder.

Beth i'w adrodd?

  • Pryderon diogelu.
  • Ymddygiad amheus neu unigolion anghyfarwydd.
  • Damweiniau, anafiadau, neu bryderon meddygol.
  • Offer wedi'u difrodi neu beryglon.

Sut i adrodd?

  • Rhowch wybod ar unwaith i aelod o'r swyddogion diogelu (lluniau isod)
  • Ewch i'r brif dderbynfa am gymorth.
  • Mewn sefyllfaoedd brys, dilynwch weithdrefnau argyfwng neu ffoniwch y gwasanaethau brys.

Gwybodaeth i'w ddarparu:

  • Lleoliad y digwyddiad.
  • Yr amser y ddigwyddodd.
  • Disgrifiad o'r hyn a ddigwyddodd.

Dyma ein Swyddogion

  • Mrs Mair Evans - Pennaeth
  • Mrs Elen Williams - Dirprwy Bennaeth
  • Mrs Dona Williams - Arweinydd CA2/CADY
  • Miss Elin Davies - Arweinydd Cyfnod Sylfaen
  • Poster Swyddogion Diogelu Ysgol Dewi Sant