Presenoldeb a Phrydlondeb
Mae Ysgol Dewi Sant yn annog presenoldeb uchel y disgyblion er mwyn galluogi pob plentyn i gyrraedd eu llawn botensial. Mae cydberthynas amlwg rhwng presenoldeb a’r safonau mae disgyblion yn eu cyrraedd.
Eich cyfrifoldebau fel rhiant
Mae gan rieni a gwarchodwyr ddyletswydd i sicrhau bod gan eu plentyn fynediad addas i addysg naill ai trwy fynychu’r ysgol yn rheolaidd neu fel arall. Mae cefnogaeth rhieni yn hanfodol wrth sicrhau bod plant yn cyflawni mewn addysg. Mae cefnogaeth ac arweiniad bob amser ar gael er mwyn gwireddu’r canlyniad hwn. Mae Miss Beth ar gael i gefnogi gydag unrhyw broblem sy'n codi gennych fel teulu all effeithio ar bresenoldeb eich plant. Cysylltwch â Miss Beth trwy law y swyddfa am sgwrs neu gefnogaeth.
Dyma ganllaw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfnodau gwahardd ar gyfer heintiau cyffredin.
Os yw eich plentyn yn absennol, rydym angen gwybod pam. Cysylltwch â Miss Catrin yn swyddfa’r ysgol pob bore o’r absenoldeb ar 01745 351 355. Mae staff y swyddfa yn barod i dderbyn eich galwad o 8:00yb ymlaen.
Cysylltu
Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE
Ffôn: 01745 351355
Facebook: @YsgolDewiSant
Instagram: @ysgol-dewi-sant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk
