Llysgenhadon Ifanc Chwaraeon

Mae Llysgenhadon Ifanc Chwaraeon yr ysgol yn gwneud gwaith gwych wrth gefnogi gweithgareddau corfforol yn ystod gwersi Addysg Gorfforol ac yn allgyrsiol. Maent yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth trwy rol fodelu a chyflwyno gweithgareddau i blant eraill yn yr ysgol. Wrth gymryd rhan blaengar mewn gwersi ac amseroedd chwarae maent yn annog disgyblion i gymryd rhan, cadw'n heini a mwynhau bod yn egniol, gan obeithio ysbrydoli ein pobl ifanc i fod yn gyfranogwyr gydol oes.

Yn ddiweddar mae'r Llysgenhadon wedi bod yn helpu arwain cychwyn gwersi Addysg Gorfforol trwy ddangos i'r plant ifanc sut mae cynhesu'r corff yn barod i berfformio, sut mae gwrando ar gyfarwyddiadau a chydweithio yn effeithiol. Maent yn dangos hyder a brwdfrydedd wrth gyflwyno'r ymarferion ac mae eu agwedd iach tuag at weithgaredd corfforol yn creu awyrgylch cadarnhaol i'r dysgwyr eraill.

Llysgenhadon Ifanc Chwaraeon Ysgol Dewi Sant 2025-26

Cysylltu

Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE

Ffôn: 01745 351355
Facebook: @YsgolDewiSant
Instagram: @ysgol-dewi-sant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk

Yn yr adran yma: